Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (267)v2 |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (0 munud) Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel (60 munud) NDM5764 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2015.
Dogfennau Ategol
|
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar helpu pobl ifanc i gael gwaith (60 munud) NDM5763 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.
Dogfennau Ategol
|
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5765 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi nad yw Cyllid Cymru yn diwallu anghenion busnesau bach ledled Cymru a bod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn broblem i lawer o fusnesau bach a chanolig; 2. Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc Datblygu i Gymru, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau'r cynigion a amlinellir yn 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' a, lle y bo'n briodol, ystyried eu hymgorffori yn y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. Mae'r adroddiad gan yr Athro Dylan Jones-Evans ar gael yn: http://gov.wales/topics/businessandeconomy/policy/access-to-finance/?lang=cy Mae
'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' ar
gael yn: Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) TYNNWYD YN ÔL Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 1, ar ôl 'diwallu', mewnosod 'yn llawn'. Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 2, dileu 'Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc' a rhoi yn ei le 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc'. Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r camau y bydd yn eu cymryd i ddatblygu Banc Datblygu i Gymru sydd wedi'i gynllunio i: a) cefnogi busnesau bach i gael mynediad at gyllid a chymorth; b) datblygu cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys allforio a mewnfuddsoddi; ac c) ariannu prosiectau seilwaith mawr, a fyddai hefyd yn egluro rôl Cyllid Cymru yn y dyfodol. |
Cyfnod pleidleisio |
Dadl Fer (30 munud) NDM5766 Keith Davies (Llanelli)
Ysgogi'r economi yng ngorllewin Cymru.
Defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i hybu twf. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2015